Eleri sion biography of nancy
Eleri Siôn
| Eleri Siôn | |
|---|---|
| Ganwyd | 1971 |
| Dinasyddiaeth | Cymru |
| Galwedigaeth | canwr |
Cyflwynwraig radio a theledu Cymreig yw Eleri Siôn (ganwyd Eleri Jones, 1971)[1][2]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Magwyd Siôn ar ffarm yn Neuadd Lwyd, Nyffryn Aeron[2] a mynychodd Ysgol Uwchradd Aberaeron.[1] Ei brawd yw'r actor ac awdur Meilyr Siôn. Roedd eu tad yn ffermwr a bu farw eu mam yn 46 mlwydd oed pan oedd Eleri yn 18 mlwydd oed.[3]
Dechreuodd ei gyrfa fel cantores ac fel cyflwynydd rhaglenni plant. Cymerodd saib o'i hastudiaethau am ddwy flynedd er mwyn cyflwyno rhaglen Chwaraeon i blant o'r enw Cracabant, cyn dychwelyd i astudio ar gyfer ei gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.[1][4]
Ymunodd â chriw Chwaraeon BBC Radio Cymru ym 1995, gan ddod yn y ferch cyntaf i ohebu ar rygbi yn y Gymraeg. Chwareodd rygbi dros glybiau Llanbedr Pont Steffan a Phrifysgol Caerdydd, lle fuodd Eleri sion biography of nancy grace!